- Sefydlu ysgol lle ceir y gwerthoedd gorau, agweddau cyson a’r ymarfer gorau posibl o fewn ein gallu, fydd yn fodd i hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.
AMCANION
Er mwyn gweithredu ein Datganiad Cenhadaeth rydym yn anelu i:
- Cynnal a chodi safonau cyflawniad disgyblion ym mhob agwedd
- Meithrin gwerthoedd moesol a dyngarol, gan ddatblygu hunan-barch a goddefgarwch tuag at eraill.
- Datblygu gallu’r disgyblion i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.
- Gosod seiliau ar gyfer sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol yn yr ysgol.
- Sicrhau cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a chyfoethog.
- Galluogi pob unigolyn i feithrin gwybodaeth, agweddau a medrau sy'n berthnasol i fywyd cyfoes, i addysgu am oes ac i ddefnyddio amser hamdden yn greadigol.