Ysgol Masnach Deg
![]() |
Y Grŵp Masnach Deg |
Rydym ni fel Grŵp Masnach Deg wedi ymrwymo i werthu, hyrwyddo a defnyddio nwyddau Masnach Deg pan fo’n bosib. Mae’n hysgol ni yn dysgu am faterion Masnach Deg ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n codi ymwybyddiaeth disgyblion a rhieni o Fasnach Deg. |
Dyma’r Grwp Masnach Deg yn gwerthu nwyddau Masnach Deg ar stondin Lis Perkins. |
Bu’r Grwp Masnach Deg yn brysur yn siopa yn Morrisons a Tesco Caergybi. Cawsom gyfraniad sylweddol gan yr archfarchnadoedd er mwyn gwneud hamperi a chynnal raffl. Codwyd £140 a fydd yn mynd tuag at ‘Fairtrade Foundation.’ |