Ysgol Effeithiol
GRŴP YSGOL EFFEITHIOL Rydym ni fel Grwp Ysgol Effeithiol yn gwerthfawrogi y cyfle i gyfrannu o fewn ein hysgol ni. |
Credwn fod:
“....cyfranogi yn golygu bod gennyf hawl i
gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau,
cynllunio ac adolygu unrhyw gamau gweithredu
a allai effeithio arnaf. Cael llais, cael dewis”
(Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion)
Eleni y mae'r grwp yn canolbwyntio ar dri agwedd i weithredu arnynt:
• cyfrannu i'r hyn a ddysgir
• cynorthwyo disgyblion eraill yn eu dysgu
• rhannu arfer dda y Grwp Effeithiol rhwng ysgolion
GRWP FfEY
Treuliwyd prynhawn braf yng nghwmni aelodau Grwp Effeithiolrwydd Ysgol Penybryn , Bethesda. Mae'r grwp wedi dechrau y cyswllt ers Tymor y Gwanwyn ac y maent yn mwynhau rhannu syniadau a chael cyfle i wneud ffrindiau newydd. |