Y Gymuned
Cred yr ysgol fod creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach yn gyfrwng i gyfoethogi a datblygu profiadau eich plentyn
DIWRNOD Y LLYFR |
Cafwyd Diwrnod y Llyfr bendigedig gyda Bwyddyn 6 yn trefnu nifer o weithgareddau gan gynnwys arwerthiant llyfrau ail law a chystadleuaeth dylunio marc llyfr a phoster. Roedd y plant wedi gwisgo i fyny fel cymeriad o lyfr ac yn wir roedd yn wledd i'r llygaid. Gwerthwyd bron pob llyfr yn yr arwerthiant a gwnaed elw o £231.89 a fydd yn cael ei anfon ymlaen i Book Aid International. Llongyfarchiadau mawr Blwyddyn 6! |
TEAMS 4 U Anfonwyd tros gant o focsys i Ewrop cyn y Nadolig – diolch i bawb a gefnogodd y fenter. |
PLANT MEWN ANGEN | ||
Cefnogodd yr ysgol yr elusen yma unwaith yn rhagor ac fe gasglwyd cyfanswm o £178.81. |
Asda Llongyfarchiadau i Adran yr Urdd ar eu llwyddiant yn derbyn £100 oddiwrth ymgyrch cymunedol Asda. |