Newyddion
![]() |
DIWRNOD DILLAD 'DOLIG! Dydd Iau 10 Rhagfyr £1 Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
FFAIR NADOLIG Nos Fercher 2 Rhagfyr -
6.00y.h. Oedolion 50c Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
TEAMS 4U – RHODD BOCS ESGIDIAU 20.10.15 Eleni eto rydym yn cefnogi yr elusen ‘Teams4U’ gan ei bod yn apêl sydd yn agos at ein calonnau yma yn Ysgol Corn Hir. Mae hefyd yn gyfle i ni ddangos ewyllys da tros wyl y Nadolig. Gan fod angen cynnwys £2 yn y bocs, sy’n ychwanegu at y gost mae croeso i’r plant greu bocs ar y cyd. Gofynnir i chwi anfon y bocs i’r ysgol ar Ddydd Llun, 23 Tachwedd. Diolch i chwi rhag blaen am eich cefnogaeth. Yn gywir/ Yours faithfully Rhys Roberts |
![]() |
Disgo Calan Gaeaf Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
CALENDR TYMOR YR HYDREF - DYDDIAD NEWYDD-
2 TACHWEDD - HMS Diwrnod o hyfforddiant mewn swydd i’r athrawon, diwrnod ychwanegol o wyliau i’r plant. |
![]() |
Noson Comedi a Chân Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
CYFARFOD NESAF CYMDEITHAS RIENI Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
DIGWYDDIADAU TYMOR YR HAF 2015 Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
CYFARFOD NESAF CYMDEITHAS RIENI Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
YMGYRCH 'WISH' DAILY POST DIOLCH YN FAWR IAWN I BAWB AM EIN CEFNOGI Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
DIWRNOD Y LLYFR Eleni rydym wedi casglu £262.54 i BOOK AID INTERNATIONAL Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
DYDD GWYL DEWI DIWRNOD DI-WISG YSGOL Dydd Mercher 4 Mawrth Dillad COCH neu draddodiadol Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
DIWRNOD Y LLYFR Ydych chi yn bry llyfrau? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
DISGO YSGOL CORN HIR Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
![]() |
CASGLU AR GYFER Y LLEN BRYDEINIG |
![]() |
TIM NOFIO |
![]() |
TWRNAMENT RYGBI |
MABOLGAMPAU’R YSGOL |
![]() |
PRESENOLDEB 100% |
GWEITHREDU DIWYDIANNOL AR 10.07.14
Derbyniwyd hysbysiad fod aelodau Undeb NUT Cymru & Unsain yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol, drwy atal eu llafur ar Dydd Iau, 10 Gorffennaf 2014 am un diwrnod. Y mae chwech allan o naw o’r athrawon yn Ysgol Corn Hir yn aelodau o’r NUT a’r rhanfwyaf o’r staff ategol yn aelodau o’r Undeb Unsain, ac yn bwriadau cefnogi streic yr Undeb.
Fel canlyniad byddaf yn cymryd camau i gau yr Ysgol i bob dosbarth heblaw am Flwyddyn 2 oherwydd rhesymau yn ymwneud â diogelwch a threfniadaeth os cedwir yr ysgol yn agored. Mi fydd trip Blwyddyn 2 yn parhau ar y diwrnod yna.
Ymddiheuraf o flaen llaw am yr anhwylustod a achosir oherwydd y gweithredu hwn.
Yn gywir
Meinir Hughes
Pennaeth
Cliciwch yma am lythyr
![]() |
YMDDEOLIAD Pob lwc i Anti Julie ac Anti Olwen ar eu hymddeoliad fel cogyddion yr ysgol. Mae'r ddwy wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i'r ysgol. |
![]() |
URDD Llongyfarchiadau mawr i dim pel droed y merched a oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth sirol. Pob lwc iddynt yn y rownd genedlaethol yn Aberystwyth. |
![]() |
HELFA WYAU PASG DYDD SADWRN 12 EBRILL, 11 am Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
GWEITHREDU DIWYDIANNOL Derbyniwyd hysbysiad fod aelodau Undeb NUT Cymru yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol, drwy atal eu llafur ar Dydd Mercher, 26 Mawrth 2014 am un diwrnod. Y mae saith allan o naw o’r athrawon yn Ysgol Corn Hir yn aelodau o’r NUT ac yn bwriadau cefnogi streic ei Undeb. Fel canlyniad byddaf yn cymryd camau i gau yr Ysgol i bob dosbarth heblaw am Flwyddyn 5 oherwydd rhesymau yn ymwneud â diogelwch a threfniadaeth os cedwir yr ysgol yn agored. Ymddiheuraf o flaen llaw am yr anhwylustod a achosir oherwydd y gweithredu hwn. Yn gywir |
DIWRNOD Y LLYFR | ||
Cafwyd Diwrnod y Llyfr bendigedig gyda Bwyddyn 6 yn trefnu nifer o weithgareddau gan gynnwys arwerthiant llyfrau ail law a chystadleuaeth dylunio marc llyfr a phoster. Roedd y plant wedi gwisgo i fyny fel cymeriad o lyfr ac yn wir roedd yn wledd i'r llygaid. Gwerthwyd bron pob llyfr yn yr arwerthiant a gwnaed elw o £231.89 a fydd yn cael ei anfon ymlaen i Book Aid International. Llongyfarchiadau mawr Blwyddyn 6! |
![]() |
DATHLU GŴYL DEWI 2014 Roedd yr ysgol yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi ar Fawrth y 5ed eleni trwy wisgo mewn gwisg Gymreig. Fel rhan o'r dathliadau cafwyd cinio cig oen traddodiadol. |
PROSIECT LLYFRGELL Mae’r Cyngor Ysgol bellach wedi ail gychwyn ar eu ‘Prosiect Llyfrgell’.Unwaith y mis byddant yn ymweld â’r llyfrgell i ddewis llyfrau ar gyfer pob dosbarth o Flwyddyn 2 i 6. |
||
Mae’r prosiect wedi profi yn llwyddiant yn ystod 2012-2013, diolch i gefnogaeth staff Llyfrgell Llangefni. I gael mwy o wybodaeth am y Cyngor Ysgol - cliciwch yma |
![]() |
YMWELIAD Â CANOLFAN AILGYLCHU GWASTRAFF DOMESTIG, PENHESGYN |
Hefyd cawsant ddysgu am y siwrne gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd i greu math o gompost crynodedig, gwellhäwr pridd, sydd wedyn yn cael ei ddosbarthu i garddwyr yr Ynys yn rhad ac am ddim. ClicIiwch yma i weld y lluniau |
![]() |
YMWELIAD ANNISGWYL Dyna i chi fraw gafod y plant pan gafwyd ymweliad annisgwyl gan neb llai na Sion Corn ar ei feic modur arian. |
![]() |
PLANNU CENNIN PEDR
Yn ddiweddar Bu y Grŵp Eco yn prysur yn plannu bulbiau Cennin Pedr ar hyd y terfyn o flaen yr Ysgol, gyda cymorth Mrs Nia P Williams, cymhorthydd o’r Adran Babanod. Roedd y Grŵp yn awyddus i ddod ag ychydig o liw i’r ardal wyrdd o flaen Swyddfa y Pennaeth ac felly aethpwyd ati i blannu y bylbiau mewn sesiwn ar ôl Ysgol. |
Edrychwn ymlaen i gyhoeddi lluniau’r blodau y Gwanwyn nesaf!!. ClicIiwch yma i weld y lluniau |
![]() |
DIWRNOD T. LLEW JONES Ar Hydref 11eg bu’r ysgol yn dathlu diwrnod T.Llew Jones. Ni welwyd erioed cymaint o for ladron wedi ymgynyll mewn un lleoliad. Bu’r plant yn brysur yn dod I adnabod yr awdur trwy amrywiol weithgareddau megis creu gemau, cyflwyniad ar yr i-pads, adrodd ac ysgrifennu i enwi ond ychydig. |
Yn ogystal â’r dathlu hwn bu Tudur Dylan Jones y bard yn gweithio gyda Blwyddyn 5 yn creu cerddi. Roedd yn ddiwrnod iw gofio. |
![]() |
AR WERTH - CAPIAU ‘BASEBALL’ Capiau gyda logo Ysgol Corn Hir - cliciwch yma |
![]() |
Dosbarth Derbyn Croesawodd yr ysgol 24 o ddisgyblion newydd i'r Dosbarth Derbyn ar ddechrau Medi. Erbyn hyn y maent wedi hen ymgartrefu ac wrth eu boddau yn y ty bach twt, fel y gwelwch. |
![]() |
Colin Jackson Fel rhan o ymgyrch 'Go dad Run' daeth Colin Jackson i ymweld a'r ysgol i siarad gyda'r plant am gadw'n heini a phwysigrwydd gweithgareddau teuluol. |
![]() |
Adran yr Urdd LLongyfarchiadau i Adran yr Urdd ar eu llwyddiant yn derbyn £100 oddiwrth ymgyrch cymunedol Asda. |
![]() |
Mabolgampau Ysgol Unwaith yn rhagor fe gafwyd mabolgampau byth gofiadwy. Daeth torf o rieni, neiniau a theidiau a ffrindiau i gefnogi y plant ar ddiwrnod heulog, braf. Roedd y cystadlu yn frwd gyda’r tri ty Carw , Chwiglen a Gafr yn brwydro am y marciau holl bwysig. |
Ar ddiwedd y dydd Chwiglen aeth a’r darian ac fel y gallwch fentro yr oedd hen ddathlu a gweiddi. Cystadlu am farciau unigol wnaeth genethod a bechgyn Blwyddyn 2 a 6 tuag at y Victor a’r Victrix. Cyflwynodd Mrs Sian Gruffydd, Cadeirydd y Corff Llywodraethu darian i gapteiniaid Chwiglen ac i’r Victor a’r Victrix o Flwyddyn 2 a 6. .Cliciwch yma i weld y lluniau. |
![]() |
11:07:13 Adroddiad Estyn Ysgol Corn Hir 2013 - cliciwch yma |
![]() |
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Ysgol Corn Hir Cliciwch yma am fwy o luniau |
![]() |
Y CYNGOR YSGOL Y Cyngor ysgol yn ymweld a’r llyfrgell yn dewis llyfrau ar gyfer y dosbarthiadau er mwyn hybu darllen.
|
20:12:12 - Newyddlen Tymor yr Hydref 2012 - cliciwch yma.