Cyngor Ysgol
DATGANIAD Y CYNGOR YSGOL ‘Ein nod ni fel Cyngor Ysgol yw cydweithio fel tîm i greu cymuned ofalgar, ddiogel a hapus ble bydd pob unigolyn yn cael ei annog |
Casglwyd syniadau o bob dosbarth ar gyfer 2015-2016 cyn i'r Cyngor fynd ati i greu Cynllun Gweithredu.
Y prif flaenoriaethau ar gyfer eleni fydd:
- cynnal gweithgareddau sy'n hyrwyddo'r Siarter Iaith Gymraeg
- sefydlu Arweinwyr Digidol yn nhop yr ysgol er mwyn hyrwyddo defnydd o TGCh ar draws y cwricwlwm
- cynnal gweithgareddau casglu arian er mwyn cefnogi elusennau a gwella adnoddau'r ysgol
Prosiect Llyfrgell
Mae’r Cyngor Ysgol bellach wedi ail gychwyn ar eu ‘Prosiect Llyfrgell’.Unwaith y mis byddant yn ymweld â’r llyfrgell i ddewis llyfrau ar gyfer pob dosbarth o Flwyddyn 2 i 6. Mae’r prosiect wedi profi yn llwyddiant yn ystod 2012-2013, diolch i gefnogaeth staff Llyfrgell Llangefni. |
Barti Ddu
Rydym ni fel Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur yn ystod Tymor yr Hydref yn trefnu diwrnod T Llew Jones. Roedd pawb wedi gwisgo fel Mor Ladron ffyrnig iawn. Bu'r diwrnod yn llwyddiant mawr - diolch i bawb a ymdrechodd.
www.schoolcouncilswales.org.uk