Yma yn Ysgol Corn Hir rydym yn anelu i ddarparu cymuned gefnogol o fewn awyrgylch hapus a diogel, lle bydd pob disgybl yn cael ei ysgogi a’i herio i gyflawni ei lawn botensial. Rhoddir pwyslais ar ansawdd a safonau uchel, mewn gwaith ac ymddygiad ac fel canlyniad rhoddir y cyfle gorau posib i’n dysgwyr i feithrin agweddau positif. Bydd hyn yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer eu haddysg a’u bywyd i’r dyfodol.